6 Roedd yr ARGLWYDD yn sori ei fod e wedi creu'r ddynoliaeth. Roedd wedi ei frifo a'i ddigio.
7 Felly dyma fe'n dweud, “Dw i'n mynd i gael gwared â'r ddynoliaeth yma dw i wedi ei chreu. Ydw, a'r anifeiliaid, yr holl ymlusgiaid a phryfed a'r adar hefyd. Dw i'n sori mod i wedi eu creu nhw yn y lle cyntaf.”
8 Ond roedd Noa wedi plesio'r ARGLWYDD.
9 Dyma hanes Noa a'i deulu:Roedd Noa yn ddyn da – yr unig un bryd hynny oedd yn gwneud beth roedd Duw eisiau. Roedd ganddo berthynas agos gyda Duw.
10 Roedd ganddo dri mab, sef Shem, Cham a Jaffeth.
11 Roedd y byd wedi ei sbwylio yng ngolwg Duw. Roedd trais a chreulondeb ym mhobman.
12 Gwelodd Duw fod y byd wedi ei sbwylio go iawn. Roedd pawb yn gwneud drwg.