10 Wythnos union wedyn dyma'r llifogydd yn dod ac yn boddi'r ddaear.
11 Pan oedd Noa yn 600 mlwydd oed, ar yr ail ar bymtheg o'r ail fis,byrstiodd y ffynhonnau dŵr tanddaearol,ac agorodd llifddorau'r awyr.
12 Buodd hi'n bwrw glaw yn drwm, ddydd a nos, am bedwar deg diwrnod.
13 Ar y diwrnod y dechreuodd hi lawio, aeth Noa i'r arch gyda'i wraig, ei feibion, Shem, Cham a Jaffeth, a'u gwragedd nhw.
14 Gyda nhw roedd y gwahanol fathau o anifeiliaid, gwyllt a dof, ymlusgiaid, adar a phryfed – popeth oedd yn gallu hedfan.
15 Aeth y creaduriaid byw i gyd at Noa i'r arch bob yn ddau –
16 gwryw a benyw, yn union fel roedd Duw wedi dweud wrth Noa. A dyma'r ARGLWYDD yn eu cau nhw i mewn.