2 Dos â saith pâr o bob anifail sy'n iawn i'w fwyta a'i aberthu, ac un pâr o bob anifail arall. Un gwryw ac un fenyw ym mhob pâr.
3 Dos â saith pâr o bob aderyn gyda ti hefyd. Dw i eisiau i'r amrywiaeth o anifeiliaid ac adar oroesi ar y ddaear.
4 Wythnos i heddiw dw i'n mynd i wneud iddi lawio. Bydd hi'n glawio nos a dydd am bedwar deg diwrnod. Dw i'n mynd i gael gwared â phopeth byw dw i wedi ei greu oddi ar wyneb y ddaear.”
5 Dyma Noa yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.
6 Roedd Noa yn 600 oed pan ddaeth y llifogydd a boddi'r ddaear.
7 Aeth Noa a'i wraig a'i feibion a'u gwragedd nhw i mewn i'r arch i ddianc rhag y llifogydd.
8 Dyma'r anifeiliaid gwahanol (y rhai oedd yn iawn i'w bwyta a'u haberthu, a'r lleill hefyd), a'r gwahanol fathau o adar a chreaduriaid bach eraill,