8 Dyma'r anifeiliaid gwahanol (y rhai oedd yn iawn i'w bwyta a'u haberthu, a'r lleill hefyd), a'r gwahanol fathau o adar a chreaduriaid bach eraill,
9 yn dod at Noa i'r arch bob yn bâr – gwryw a benyw. Digwyddodd hyn yn union fel roedd Duw wedi dweud wrth Noa.
10 Wythnos union wedyn dyma'r llifogydd yn dod ac yn boddi'r ddaear.
11 Pan oedd Noa yn 600 mlwydd oed, ar yr ail ar bymtheg o'r ail fis,byrstiodd y ffynhonnau dŵr tanddaearol,ac agorodd llifddorau'r awyr.
12 Buodd hi'n bwrw glaw yn drwm, ddydd a nos, am bedwar deg diwrnod.
13 Ar y diwrnod y dechreuodd hi lawio, aeth Noa i'r arch gyda'i wraig, ei feibion, Shem, Cham a Jaffeth, a'u gwragedd nhw.
14 Gyda nhw roedd y gwahanol fathau o anifeiliaid, gwyllt a dof, ymlusgiaid, adar a phryfed – popeth oedd yn gallu hedfan.