1 Ond doedd Duw ddim wedi anghofio am Noa a'r holl anifeiliaid gwyllt a dof oedd gydag e yn yr arch. Felly gwnaeth i wynt chwythu, a dyma lefel y dŵr yn dechrau mynd i lawr.
2 Dyma'r ffynhonnau dŵr tanddaearol a'r llifddorau yn yr awyr yn cael eu cau, a dyma hi'n stopio glawio.
3 Dechreuodd y dŵr fynd i lawr.
4 Bum mis union ar ôl i'r dilyw ddechrau, glaniodd yr arch ar fynyddoedd Ararat.
5 Ddau fis a hanner wedyn, wrth i'r dŵr ddal i fynd i lawr o dipyn i beth, daeth rhai o'r mynyddoedd eraill i'r golwg.
6 Pedwar deg diwrnod ar ôl i'r arch lanio, dyma Noa yn agor ffenest