11 Y tro yma, pan oedd hi'n dechrau nosi, dyma'r golomen yn dod yn ôl gyda deilen olewydd ffres yn ei phig. Felly roedd Noa'n gwybod bod y dŵr bron wedi mynd.
12 Arhosodd am wythnos arall ac anfon y golomen allan eto, a'r tro yma ddaeth hi ddim yn ôl.
13 Pan oedd Noa yn 601 oed, ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn roedd y llifogydd wedi mynd. Dyma Noa yn symud rhan o'r gorchudd ar do'r arch a gwelodd fod y ddaear bron wedi sychu.
14 Erbyn y seithfed ar hugain o'r ail fis roedd y ddaear yn sych.
15 A dyma Duw yn dweud wrth Noa,
16 “Dos allan o'r arch, ti a dy deulu.
17 Tyrd â phopeth allan – yr adar a'r anifeiliaid, a phob creadur bach arall – dw i eisiau iddyn nhw gael llawer iawn o rai bach, drwy'r ddaear i gyd.”