4 Bum mis union ar ôl i'r dilyw ddechrau, glaniodd yr arch ar fynyddoedd Ararat.
5 Ddau fis a hanner wedyn, wrth i'r dŵr ddal i fynd i lawr o dipyn i beth, daeth rhai o'r mynyddoedd eraill i'r golwg.
6 Pedwar deg diwrnod ar ôl i'r arch lanio, dyma Noa yn agor ffenest
7 ac yn anfon cigfran allan. Roedd hi'n hedfan i ffwrdd ac yn dod yn ôl nes oedd y dŵr wedi sychu oddi ar wyneb y ddaear.
8 Wedyn dyma Noa yn anfon colomen allan, i weld os oedd y dŵr wedi mynd.
9 Ond roedd y golomen yn methu dod o hyd i le i glwydo, a daeth yn ôl i'r arch. Roedd y dŵr yn dal i orchuddio'r ddaear. Estynnodd Noa ei law ati a dod â hi yn ôl i mewn i'r arch.
10 Arhosodd am wythnos cyn danfon y golomen allan eto.