1 Dyma Duw yn bendithio Noa a'i feibion, a dweud wrthyn nhw: “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear.
2 Bydd gan yr anifeiliaid, yr adar, pob creadur bach arall a'r pysgod eich ofn chi. Byddwch yn eu rheoli nhw.
3 Bellach cewch fwyta unrhyw greadur byw, nid dim ond planhigion fel o'r blaen.
4 Ond rhaid i chi beidio bwyta cig sydd â bywyd yn dal ynddo (sef y gwaed).