16 Pan fydd enfys yn y cymylau bydda i'n cofio'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud gyda phob creadur byw sydd ar y ddaear.”
17 A dyma Duw yn dweud wrth Noa, “Dyma'r arwydd sy'n dangos y bydda i'n cadw'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud gyda phopeth byw ar y ddaear.”
18 Shem, Cham a Jaffeth oedd enwau meibion Noa ddaeth allan o'r arch. (Cham oedd tad Canaan.)
19 Roedd y tri ohonyn nhw yn feibion i Noa, ac mae holl bobloedd y byd yn ddisgynyddion iddyn nhw.
20 Roedd Noa yn ffermwr. Fe oedd y cyntaf un i blannu gwinllan.
21 Yfodd Noa beth o'r gwin, a meddwi. Tynnodd ei ddillad a gorwedd yn noeth yn ei babell.
22 Dyma Cham, tad Canaan, yn edrych ar ei dad yn noeth ac yna'n mynd allan i ddweud wrth ei frodyr.