2 Bydd gan yr anifeiliaid, yr adar, pob creadur bach arall a'r pysgod eich ofn chi. Byddwch yn eu rheoli nhw.
3 Bellach cewch fwyta unrhyw greadur byw, nid dim ond planhigion fel o'r blaen.
4 Ond rhaid i chi beidio bwyta cig sydd â bywyd yn dal ynddo (sef y gwaed).
5 Mae tywallt gwaed dynol yn rhywbeth sy'n rhaid ei gosbi. Rhaid lladd unrhyw anifail gwyllt sy'n gwneud hynny. A rhaid i berson sy'n lladd rhywun arall farw hefyd, am fod pobl yn frodyr a chwiorydd i'w gilydd.
6 Mae rhywun sy'n lladd person arallyn haeddu cael ei ladd ei hun,am fod Duw wedi creu'r ddynoliaethyn ddelw ohono'i hun.
7 Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi drwy'r byd i gyd.”
8 A dyma Duw yn dweud wrth Noa a'i feibion,