23 Ond dyma Shem a Jaffeth yn cymryd clogyn a'i osod ar eu hysgwyddau. Wedyn dyma nhw'n cerdded at yn ôl i mewn i'r babell a gorchuddio corff noeth eu tad. Roedden nhw yn edrych i ffwrdd wrth wneud hyn, felly wnaethon nhw ddim gweld eu tad yn noeth.
24 Ar ôl i Noa ddeffro a sobri, clywodd beth roedd ei fab ifancaf wedi ei wneud,
25 ac meddai,“Melltith ar Canaan!bydd fel caethwas dibwys i'w frodyr.”
26 Wedyn dwedodd Noa,“Bendith yr ARGLWYDD Dduw ar Shem!Bydd Canaan yn gaethwas iddo.
27 Boed i Dduw roi digonedd o le i Jaffeth,a gwneud iddo gyd-fyw'n heddychlon gyda Shem.A bydd Canaan yn gaethwas iddo yntau hefyd.”
28 Buodd Noa fyw 350 mlynedd ar ôl y dilyw.
29 Felly roedd Noa yn 950 oed yn marw.