24 Ar ôl i Noa ddeffro a sobri, clywodd beth roedd ei fab ifancaf wedi ei wneud,
25 ac meddai,“Melltith ar Canaan!bydd fel caethwas dibwys i'w frodyr.”
26 Wedyn dwedodd Noa,“Bendith yr ARGLWYDD Dduw ar Shem!Bydd Canaan yn gaethwas iddo.
27 Boed i Dduw roi digonedd o le i Jaffeth,a gwneud iddo gyd-fyw'n heddychlon gyda Shem.A bydd Canaan yn gaethwas iddo yntau hefyd.”
28 Buodd Noa fyw 350 mlynedd ar ôl y dilyw.
29 Felly roedd Noa yn 950 oed yn marw.