6 Mae rhywun sy'n lladd person arallyn haeddu cael ei ladd ei hun,am fod Duw wedi creu'r ddynoliaethyn ddelw ohono'i hun.
7 Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi drwy'r byd i gyd.”
8 A dyma Duw yn dweud wrth Noa a'i feibion,
9 “Dw i am wneud ymrwymiad i chi a'ch disgynyddion,
10 a hefyd gyda pob creadur byw – adar, anifeiliaid dof a phob creadur arall ddaeth allan o'r arch.
11 Dw i'n addo na fydda i byth yn anfon dilyw eto i gael gwared â phopeth byw ac i ddinistrio'r ddaear.
12 A dw i'n mynd i roi arwydd i chi i ddangos fod yr ymrwymiad dw i'n ei wneud yn mynd i bara am byth: