9 “Dw i am wneud ymrwymiad i chi a'ch disgynyddion,
10 a hefyd gyda pob creadur byw – adar, anifeiliaid dof a phob creadur arall ddaeth allan o'r arch.
11 Dw i'n addo na fydda i byth yn anfon dilyw eto i gael gwared â phopeth byw ac i ddinistrio'r ddaear.
12 A dw i'n mynd i roi arwydd i chi i ddangos fod yr ymrwymiad dw i'n ei wneud yn mynd i bara am byth:
13 Dw i'n rhoi fy mwa yn y cymylau, a bydd yn arwydd o'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud gyda'r ddaear.
14 Pan fydd cymylau yn yr awyr, ag enfys i'w gweld yn y cymylau,
15 bydda i'n cofio'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud i chi a phob creadur byw. Fydd llifogydd ddim yn dod i ddinistrio bywyd i gyd byth eto.