2 Brenhinoedd 1 BCN

Elias a'r Brenin Ahaseia

1 Wedi marw Ahab gwrthryfelodd Moab yn erbyn Israel.

2 Syrthiodd Ahaseia o ffenestr ei lofft yn Samaria a chael ei anafu. Yna anfonodd negeswyr a dweud wrthynt, “Ewch i ymofyn â Baal-sebub duw Ecron, a fyddaf yn gwella o'm hanaf.”

3 A dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Elias y Thesbiad, “Dos i gyfarfod negeswyr brenin Samaria, a dywed wrthynt, ‘Ai am nad oes Duw yn Israel yr wyt yn anfon i ymofyn â Baal-sebub duw Ecron?

4 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Ni ddoi o'r gwely yr aethost iddo, ond byddi farw.’ ” Ac aeth Elias.

5 Dychwelodd y negeswyr, a gofynnodd Ahaseia iddynt, “Pam yr ydych wedi dychwelyd?”

6 Eu hateb oedd, “Daeth rhyw ddyn i'n cyfarfod a dweud wrthym, ‘Ewch yn ôl at y brenin sydd wedi'ch anfon, a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Ai am nad oes Duw yn Israel yr wyt yn anfon i ymofyn â Baal-sebub duw Ecron? Am hynny, ni ddoi o'r gwely yr aethost iddo, ond byddi farw”.’ ”

7 Gofynnodd y brenin, “Sut un oedd y dyn a ddaeth i'ch cyfarfod a dweud hyn wrthych?”

8 Atebodd y dynion, “Dyn blewog, a gwregys o groen am ei ganol.” Ac meddai yntau, “Elias y Thesbiad oedd.”

9 Yna anfonodd gapten hanner cant gyda'i ddynion at Elias, a daeth o hyd iddo yn eistedd ar ben bryncyn. Dywedodd wrtho, “Ti ŵr Duw, y mae'r brenin yn gorchymyn iti ddod i lawr.”

10 Atebodd Elias y capten, “Os wyf fi'n ŵr Duw, doed tân o'r nef a'th ddifa di a'th hanner cant.” A disgynnodd tân o'r nefoedd a'i ddifa ef a'i hanner cant.

11 Anfonodd y brenin gapten hanner cant arall gyda'i ddynion; a daeth yntau a dweud, “Gŵr Duw, dyma a ddywed y brenin: Tyrd i lawr ar unwaith.”

12 Atebodd Elias, “Os wyf fi'n ŵr Duw, doed tân o'r nef a'th ddifa di a'th hanner cant.”

13 A disgynnodd tân o'r nefoedd a'i ddifa ef a'i hanner cant. Yna anfonwyd trydydd capten hanner cant gyda'i ddynion. Pan ddaeth y trydydd capten i fyny ato, fe syrthiodd ar ei liniau o flaen Elias a chrefu arno, “O ŵr Duw, gad i'm bywyd i, a bywyd yr hanner cant yma o'th weision, fod yn werthfawr yn d'olwg.

14 Y mae tân wedi disgyn o'r nef a difa'r ddau gapten cyntaf a'u dynion, ond yn awr gad i'm bywyd fod yn werthfawr yn d'olwg.”

15 Dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Elias, “Dos i lawr gydag ef; paid â'i ofni.”

16 Yna aeth i lawr gydag ef at y brenin a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Am iti anfon negeswyr i ymofyn â Baal-sebub duw Ecron (ai am nad oes Duw yn Israel i ymofyn am ei air?), ni ddoi o'r gwely yr aethost iddo, ond byddi farw.”

17 A marw a wnaeth, yn unol â gair yr ARGLWYDD, a lefarodd Elias. Am nad oedd ganddo fab, daeth Jehoram yn frenin yn ei le, yn ail flwyddyn Jehoram fab Jehosaffat, brenin Jwda.

18 Am weddill y pethau a wnaeth Ahaseia, onid ydynt wedi eu hysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25