2 Brenhinoedd 7 BCN

1 Ond dywedodd Eliseus, “Gwrando air yr ARGLWYDD. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Tua'r adeg yma yfory gwerthir ym mhorth Samaria bwn o flawd am sicl, a dau bwn o haidd am sicl.”

2 Atebwyd Eliseus gan y swyddog yr oedd y brenin yn pwyso ar ei fraich: “Hyd yn oed pe bai'r ARGLWYDD yn agor ffenestri yn y nefoedd, a allai hyn ddigwydd?” Meddai yntau, “Cei ei weld â'th lygaid dy hun, ond ni chei fwyta ohono.”

Byddin Syria yn Ymadael

3 Y tu allan i'r porth yr oedd pedwar dyn gwahanglwyfus, ac meddent wrth ei gilydd, “Pam aros yma nes inni farw?

4 Pe byddem yn penderfynu mynd i'r ddinas, byddem yn marw yno am fod newyn yn y ddinas; a marw y byddwn os arhoswn yma. Dewch, mentrwn i wersyll Syria. Os arbedant ni, cawn fyw; os lladdant ni, byddwn farw.”

5 Felly gyda'r nos aethant draw i wersyll y Syriaid; ond wedi iddynt gyrraedd cwr y gwersyll, nid oedd yr un Syriad yno.

6 Yr oedd yr ARGLWYDD wedi peri i wersyll y Syriaid glywed trwst cerbydau a meirch a byddin gref, nes bod pawb yn dweud, “Y mae brenin Israel wedi cyflogi brenhinoedd yr Hethiaid a'r Eifftiaid i ymosod arnom.”

7 Dyna pam yr oeddent wedi ffoi gyda'r nos, a gadael eu pebyll a'u meirch a'u hasynnod a'r gwersyll fel yr oedd, a ffoi am eu heinioes.

8 Pan ddaeth y gwahangleifion hyn i gwr y gwersyll, aethant i mewn i un o'r pebyll, a bwyta ac yfed; ac yna aethant ag arian ac aur a dilladau oddi yno a'u cuddio; wedyn dod yn ôl a mynd i babell arall a dwyn o honno a'i guddio.

9 Yna dyma hwy'n dweud wrth ei gilydd, “Nid ydym yn gwneud y peth iawn; dydd o newyddion da yw heddiw, a ninnau'n dweud dim. Os arhoswn hyd olau dydd, byddwn ar fai; felly gadewch inni fynd a dweud ym mhalas y brenin.”

10 Aethant a galw ar borthorion y ddinas a dweud, “Buom yng ngwersyll y Syriaid, ond nid oedd unrhyw un yno, na sôn am neb—dim ond ambell geffyl ac asyn wedi ei rwymo, a'r pebyll wedi eu gadael fel yr oeddent.”

11 Gwaeddodd y porthorion a dweud wrth y rhai oedd i mewn ym mhalas y brenin.

12 Yna cododd y brenin gefn nos, ac meddai wrth ei weision, “Mi ddywedaf wrthych beth y mae'r Syriaid yn ei wneud i ni; y maent yn gwybod bod newyn arnom, ac y maent wedi mynd allan o'r gwersyll i guddio, gan feddwl, ‘Pan ddônt allan o'r ddinas, daliwn hwy'n fyw, a mynd i mewn i'r ddinas.’ ”

13 Atebodd un o'i weision, “Beth am gymryd pump o'r meirch sydd ar ôl, ac anfon rhywrai inni gael gweld? Achos, os arhoswn yn y ddinas, fe fydd holl liaws Israel sydd ar ôl yr un fath â'r holl lu o Israeliaid sydd wedi darfod.”

14 Wedi dewis dau farchog, anfonodd y brenin hwy ar ôl byddin Syria, gyda'r siars, “Ewch i edrych.”

15 Aethant ar eu hôl cyn belled â'r Iorddonen, ac yr oedd y ffordd ar ei hyd yn llawn o ddillad a chelfi wedi eu taflu i ffwrdd gan y Syriaid yn eu brys. Yna dychwelodd y negeswyr a dweud wrth y brenin.

16 Wedi hynny aeth y bobl allan ac ysbeilio gwersyll y Syriaid, a chaed pwn o flawd am sicl a dau bwn o haidd am sicl, yn ôl gair yr ARGLWYDD.

17 Yr oedd y brenin wedi penodi'r swyddog y pwysai ar ei fraich i arolygu'r porth; ond mathrodd y bobl ef yn y porth, a bu farw, fel yr oedd gŵr Duw wedi dweud pan aeth y brenin ato.

18 Digwyddodd hefyd yn ôl fel y dywedodd gŵr Duw wrth y brenin, “Bydd dau bwn o haidd am sicl, a phwn o beilliaid am sicl yr adeg yma yfory ym mhorth Samaria.”

19 Pan atebodd y swyddog ŵr Duw a dweud, “Hyd yn oed pe bai'r ARGLWYDD yn gwneud ffenestri yn y nef, a allai hyn ddigwydd?” cafodd yr ateb, “Cei ei weld â'th lygaid dy hun, ond ni chei fwyta ohono.”

20 Ac felly y digwyddodd: mathrodd y bobl ef yn y porth, a bu farw.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25