2 Brenhinoedd 9 BCN

Eneinio Jehu yn Frenin Israel

1 Galwodd y proffwyd Eliseus ar un o'r proffwydi a dweud wrtho, “Clyma dy wisg am dy ganol, cymer y ffiol olew hon yn dy law a dos i Ramoth-gilead.

2 Wedi iti gyrraedd, edrych yno am Jehu fab Jehosaffat, fab Nimsi;

3 yna dos a chymer ef allan o blith ei gymrodyr a mynd ag ef i ystafell fewnol, a chymryd y ffiol olew a'i harllwys ar ei ben a dweud, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Rwy'n dy eneinio'n frenin ar Israel.” Yna agor y drws a ffo heb oedi.’ ”

4 Aeth y llanc o broffwyd i Ramoth-gilead.

5 A phan gyrhaeddodd, yr oedd swyddogion y fyddin yn eistedd gyda'i gilydd, a dywedodd, “Y mae gennyf neges i ti, syr.” Gofynnodd Jehu, “I ba un ohonom?” “I ti, syr,” meddai yntau.

6 Cododd a mynd i mewn; yna tywalltodd y llanc yr olew ar ben Jehu, a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: Rwy'n dy eneinio'n frenin ar Israel, pobl yr ARGLWYDD.

7 Taro dŷ Ahab, dy feistr, fel y caf ddial ar Jesebel am waed fy ngweision y proffwydi, a holl weision yr ARGLWYDD.

8 Difethir holl dŷ Ahab, a distrywiaf bob gwryw sydd gan Ahab yn Israel, caeth neu rydd.

9 A gwnaf dŷ Ahab fel tŷ Jeroboam fab Nebat a thŷ Baasa fab Aheia.

10 Ac am Jesebel, bydd y cŵn yn ei bwyta yn rhandir Jesreel, heb neb i'w chladdu.” Yna fe agorodd y drws a ffoi.

11 Pan ddaeth Jehu allan at weision eraill ei feistr, holodd un, “A yw popeth yn iawn? Pam y daeth yr ynfyd yna atat?” Atebodd yntau, “Gwyddoch am y dyn a'i siarad.”

12 “Paid â'th gelwydd,” meddent, “da thi, dywed wrthym.” Ac atebodd, “Dyma'r hyn a ddywedodd wrthyf: ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Rwy'n dy eneinio'n frenin ar Israel.’ ”

13 Yna cipiodd pob un ddilledyn a'i roi dano ar ben y grisiau, a chwythu utgorn a dweud, “Jehu sydd frenin!”

14 A gwnaeth Jehu fab Jehosaffat, fab Nimsi gynllwyn yn erbyn Joram.Yr oedd Joram a holl Israel ar wyliadwriaeth yn Ramoth-gilead rhag Hasael brenin Syria;

Lladd Joram Brenin Israel ac Ahaseia Brenin Jwda

15 ond yr oedd Joram wedi dychwelyd adref i Jesreel i wella o'r clwyfau a gafodd gan y Syriaid wrth ymladd â Hasael brenin Syria. A dywedodd Jehu, “Os dyma'ch teimlad, peidiwch â gadael i neb ddianc o'r ddinas i yngan gair yn Jesreel.”

16 Aeth Jehu yn ei gerbyd am Jesreel, gan fod Joram yn orweiddiog yno. Ac yr oedd Ahaseia brenin Jwda wedi dod i edrych am Joram.

17 Yr oedd gwyliwr yn sefyll ar dŵr yn Jesreel, a gwelodd fintai Jehu yn dod, a dywedodd, “Rwy'n gweld mintai.” Dywedodd Joram, “Dewis farchog, a'i anfon i'w cyfarfod, i ofyn a yw popeth yn iawn.”

18 Yna fe aeth marchog i'w cyfarfod a dweud, “Fel hyn y mae'r brenin yn gofyn; ‘A yw popeth yn iawn?’ ” Ac meddai Jehu, “Pa wahaniaeth i ti a yw popeth yn iawn? Tyrd i'm canlyn.” Cyhoeddodd y gwyliwr, “Y mae'r negesydd wedi cyrraedd atynt, ond nid yw'n dod yn ôl.”

19 Yna anfonwyd ail farchog, a phan gyrhaeddodd atynt, dywedodd, “Fel hyn y dywed y brenin; ‘A yw popeth yn iawn?’ ” Atebodd Jehu, “Pa wahaniaeth i ti a yw popeth yn iawn? Tyrd i'm canlyn.”

20 A chyhoeddodd y gwyliwr, “Y mae wedi cyrraedd atynt, ond nid yw'n dod yn ôl; ac y mae'r gyrru fel gyrru Jehu fab Nimsi, oherwydd y mae'n gyrru'n ynfyd.”

21 Dywedodd Joram, “Cyplwch fy ngherbyd.” Ac wedi iddynt ei gyplu, aeth Joram brenin Israel ac Ahaseia brenin Jwda allan bob un yn ei gerbyd, i gyfarfod Jehu; a chawsant ef yn rhandir Naboth y Jesreeliad.

22 Pan welodd Joram Jehu gofynnodd, “A yw popeth yn iawn, Jehu?” Atebodd yntau, “Sut y gall fod yn iawn tra bo cymaint o buteindra a hudoliaeth dy fam Jesebel yn aros?”

23 Yna troes Joram ei gerbyd yn ôl a ffoi, a gweiddi ar Ahaseia, “Brad, Ahaseia!”

24 Cydiodd Jehu yn ei fwa a saethu Joram rhwng ei ysgwyddau nes i'r saeth fynd trwy ei galon, a syrthiodd i'r cerbyd.

25 Dywedodd Jehu wrth Bidcar ei is-gapten, “Gafael ynddo a bwrw ef i randir Naboth y Jesreeliad; oblegid rwyf fi a thithau'n cofio, pan oeddem yn cydyrru cerbyd ar ôl ei dad Ahab, fod yr ARGLWYDD wedi cyhoeddi'r oracl hwn yn ei erbyn:

26 ‘Cyn wired ag y gwelais waed Naboth a'i feibion ddoe, medd yr ARGLWYDD, fe dalaf yn ôl i ti yn y rhandir hwn, medd yr ARGLWYDD’; felly, gafael ynddo a bwrw ef allan i'r rhandir, yn ôl gair yr ARGLWYDD.”

27 Pan welodd Ahaseia brenin Jwda hyn, ffodd i gyfeiriad Beth-haggan, a Jehu yn erlyn ar ei ôl ac yn dweud, “Tarwch yntau hefyd.” A thrawsant ef yn ei gerbyd wrth allt Gur ger Ibleam, ond ffodd i Megido a marw yno.

28 Yna cludodd ei weision ef i Jerwsalem, a'i gladdu yn ei feddrod gyda'i ragflaenwyr yn Ninas Dafydd.

29 Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg i Joram fab Ahab y daeth Ahaseia yn frenin ar Jwda.

Lladd Jesebel

30 Daeth Jehu i Jesreel. Pan glywodd Jesebel, colurodd ei hwyneb ac addurno ei phen, ac edrychodd allan trwy'r ffenestr.

31 Fel yr oedd Jehu yn cyrraedd y porth, dywedodd wrtho, “A fydd heddwch, Simri, llofrudd ei feistr?”

32 Cododd yntau ei olwg at y ffenestr a gofyn, “Pwy sydd o'm plaid? Pwy?” Edrychodd dau neu dri o'r gweision allan, ac meddai Jehu, “Taflwch hi i lawr.”

33 Taflasant hi i lawr, a thasgodd peth o'i gwaed ar y pared ac ar y meirch, a mathrwyd hithau.

34 Wedi iddo fwyta ac yfed, dywedodd, “Gofalwch am gladdu'r ddynes felltigedig yna, oblegid merch i frenin oedd hi.”

35 Ond pan aethant i'w chladdu, ni chawsant ddim ohoni ond y benglog a'r traed a chledrau'r dwylo.

36 A phan ddaethant yn ôl a dweud wrtho, dywedodd Jehu, “Dyma a fynegodd yr ARGLWYDD drwy ei was Elias y Thesbiad: Yn rhandir Jesreel fe fwyty'r cŵn gnawd Jesebel,

37 a bydd corff Jesebel fel tail ar wyneb cae yn rhandir Jesreel, fel na ellir dweud, ‘Dyma Jesebel.’ ”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25