2 Brenhinoedd 6 BCN

Adfer y Fwyell

1 Dywedodd y proffwydi wrth Eliseus, “Edrych yn awr, y mae'r lle yr ydym yn byw ynddo gyda thi yn rhy gyfyng inni.

2 Gad inni fynd at yr Iorddonen a chymryd oddi yno drawst bob un i wneud lle y gallwn fyw ynddo.” Dywedodd yntau, “Ewch.”

3 Ond meddai un, “Bydd dithau fodlon i ddod gyda'th weision.” Ac atebodd, “Dof.”

4 Yna aeth gyda hwy at yr Iorddonen i dorri coed.

5 Tra oedd un yn cwympo trawst, syrthiodd ei fwyell i'r dŵr, a dywedodd, “Gwae fi, syr; un fenthyg oedd hi.”

6 Dywedodd gŵr Duw, “Ple y syrthiodd?” Dangosodd y lle iddo; torrodd yntau ffon a'i thaflu yno, a nofiodd y fwyell.

7 Dywedodd, “Cod hi.” Ac estynnodd ei law a'i chymryd.

Gorchfygu Byddin Syria

8 Pan oedd brenin Syria am ryfela yn erbyn Israel, ymgynghorodd â'i weision a phenderfynu, “Yn y fan a'r fan y bydd fy ngwersyll.”

9 Ac anfonodd gŵr Duw at frenin Israel a dweud, “Gwylia rhag mynd heibio'r fan a'r fan, oherwydd y mae'r Syriaid yn mynd i lawr yno.”

10 Ac anfonodd brenin Israel ddynion i'r fan a ddywedodd gŵr Duw, ac felly y rhybuddiwyd ef i fod yn wyliadwrus, dro ar ôl tro.

11 Cynhyrfodd brenin Syria am hyn a galwodd ei weision ato a dweud wrthynt, “Oni ddywedwch wrthyf pwy ohonom sydd o blaid brenin Israel?”

12 Ond dywedodd un o'i weision, “Nid oes neb, f'arglwydd frenin; Eliseus, y proffwyd o Israel, sy'n dweud wrth frenin Israel y geiriau yr wyt ti'n eu llefaru yn d'ystafell wely.”

13 Dywedodd yntau, “Ewch ac edrychwch ble y mae ef, er mwyn i mi anfon i'w ddal.”

14 Dywedwyd wrtho, “Y mae yn Dothan.” Ac anfonodd yno feirch a cherbydau a byddin gref. Daethant liw nos ac amgylchu'r dref.

15 Pan gododd gwas gŵr Duw yn y bore bach, a mynd allan, dyna lle'r oedd byddin a meirch a cherbydau o amgylch y dref, ac meddai, “O feistr, beth a wnawn ni?”

16 Dywedodd yntau, “Paid ag ofni; y mae mwy gyda ni nag sydd gyda hwy.”

17 Yna gweddïodd Eliseus, “ARGLWYDD, agor ei lygaid, iddo weld.” Ac agorodd yr ARGLWYDD lygaid y llanc, ac yna fe welodd y mynydd yn llawn meirch a cherbydau tanllyd o gwmpas Eliseus.

18 Pan ddaeth y Syriaid i lawr ato, gweddïodd Eliseus ar yr ARGLWYDD a dweud, “Taro'r bobl hyn yn ddall,” a thrawyd hwy'n ddall, yn ôl gair Eliseus.

19 A dywedodd Eliseus wrthynt, “Nid dyma'r ffordd; nid hon yw'r dref. Dilynwch fi, ac af â chwi at y gŵr yr ydych yn ei geisio.” Ac arweiniodd hwy i Samaria.

20 Wedi iddynt gyrraedd Samaria, dywedodd Eliseus, “ARGLWYDD, agor lygaid y bobl hyn, iddynt weld.” Pan agorodd yr ARGLWYDD eu llygaid a hwythau'n gweld, yno yng nghanol Samaria yr oeddent.

21 A phan welodd brenin Israel hwy, gofynnodd i Eliseus, “Fy nhad, a gaf fi eu lladd bob un?”

22 Atebodd yntau, “Na, paid â'u lladd. A fyddit ti'n lladd y rhai a gymerit yn gaeth trwy dy gleddyf a'th fwa? Rho fara a dŵr o'u blaenau, iddynt gael bwyta ac yfed a mynd yn ôl at eu meistr.”

23 Arlwyodd wledd fawr iddynt, ac wedi iddynt fwyta ac yfed, gollyngodd hwy. Aethant at eu meistr, ac ni ddaeth byddinoedd Syria rhagor i dir Israel.

Gwarchae ar Samaria

24 Ymhen amser, cynullodd Ben-hadad brenin Syria ei holl fyddin a mynd i warchae ar Samaria.

25 Yna bu newyn mawr yn Samaria, a'r gwarchae mor dynn nes bod pen asyn yn costio pedwar ugain o siclau arian, a chwarter pwys o dail colomen bum sicl.

26 Fel yr oedd brenin Israel yn cerdded ar y mur, gwaeddodd gwraig arno, “F'arglwydd frenin, helpa fi!”

27 Ond dywedodd, “Na! Bydded i'r ARGLWYDD dy helpu; o ble y caf fi help iti—ai o'r llawr dyrnu neu o'r gwinwryf?”

28 Yna gofynnodd y brenin, “Beth sydd o'i le?” Meddai hithau, “Dywedodd y ddynes yma wrthyf, ‘Dyro di dy blentyn inni ei fwyta heddiw, a chawn fwyta fy mab i yfory.’

29 Felly berwyd fy mab i a'i fwyta, ac yna dywedais wrthi y diwrnod wedyn, ‘Dyro dithau dy fab inni ei fwyta.’ Ond y mae hi wedi cuddio'i phlentyn.”

30 Pan glywodd y brenin eiriau'r wraig, rhwygodd ei wisg; a chan ei fod yn cerdded ar y mur, gwelodd y bobl ei fod yn gwisgo sachliain yn nesaf at ei groen.

31 Ac meddai, “Fel hyn y gwnelo Duw i mi, a rhagor, os ceidw Eliseus fab Saffat ei ben ar ei ysgwyddau heddiw.”

32 Gartref yr oedd Eliseus, a'r henuriaid yn eistedd gydag ef. Anfonodd y brenin ŵr o'i lys, ond cyn i'r negesydd gyrraedd, yr oedd Eliseus wedi dweud wrth yr henuriaid, “A welwch chwi fod y cyw llofrudd hwn wedi anfon rhywun i dorri fy mhen? Edrychwch; pan fydd y negesydd yn cyrraedd, caewch y drws a daliwch y drws yn ei erbyn. Onid wyf yn clywed sŵn traed ei feistr yn ei ddilyn?”

33 A thra oedd eto'n siarad â hwy, dyna'r brenin yn cyrraedd ac yn dweud, “Oddi wrth yr ARGLWYDD y daeth ein haflwydd, pam y disgwyliaf rhagor wrtho?”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25