2 Brenhinoedd 21 BCN

Manasse Brenin Jwda

1 Deuddeng mlwydd oed oedd Manasse pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am hanner cant a phump o flynyddoedd yn Jerwsalem. Heffsiba oedd enw ei fam.

2 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl ffieidd-dra'r cenhedloedd a yrrodd yr ARGLWYDD allan o flaen yr Israeliaid.

3 Ailadeiladodd yr uchelfeydd a ddinistriodd ei dad Heseceia, a chododd allorau i Baal a gwneud delw o Asera, fel y gwnaeth Ahab brenin Israel, ac ymgrymodd i holl lu'r nef a'u haddoli.

4 Adeiladodd allorau yn y deml y dywedodd yr ARGLWYDD amdani, “Yn Jerwsalem y gosodaf fy enw.”

5 Cododd allorau i holl lu'r nef yn nau gyntedd y deml.

6 Parodd i'w fab fynd trwy dân, ac arferodd hudoliaeth a swynion, a bu'n ymhél ag ysbrydion a dewiniaid. Yr oedd yn ymroi i wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio.

7 Gwnaeth ddelw o Asera a'i gosod yn y deml y dywedodd yr ARGLWYDD amdani wrth Ddafydd a'i fab Solomon, “Yn y tŷ hwn ac yn Jerwsalem, y lle a ddewisais allan o holl lwythau Israel, yr wyf am osod fy enw yn dragwyddol.

8 Ni throf Israel allan mwyach o'r tir a roddais i'w hynafiaid, ond iddynt ofalu gwneud fel y gorchmynnais iddynt yn y gyfraith a roes fy ngwas Moses iddynt.”

9 Eto ni fynnent wrando, ac arweiniodd Manasse hwy i ddrygioni gwaeth na'r eiddo'r cenhedloedd a ddinistriodd yr ARGLWYDD o flaen yr Israeliaid.

10 Yna dywedodd yr ARGLWYDD trwy ei weision y proffwydi,

11 “Am i Manasse brenin Jwda wneud y ffieidd-dra hwn, a gweithredu'n waeth na'r Amoriaid oedd o'i flaen, ac arwain Jwda hefyd i bechu gyda'i eilunod,

12 fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: Dygaf y fath ddrwg ar Jerwsalem a Jwda fel y bydd yn merwino clustiau pwy bynnag a glyw.

13 Rhoddaf ar Jerwsalem yr un llinyn ag ar Samaria, a'r un mesur ag ar dŷ Ahab. Golchaf Jerwsalem fel y bydd un yn golchi llestr ac yna'n ei droi ar ei wyneb.

14 Byddaf yn gwrthod gweddill fy etifeddiaeth, ac yn eu rhoi yn llaw eu holl elynion i fod yn anrhaith ac yn ysbail,

15 am eu bod wedi gwneud yr hyn sydd ddrwg yn fy ngolwg a'm digio, o'r dydd y daeth eu hynafiaid o'r Aifft hyd heddiw.”

16 Tywalltodd Manasse gymaint o waed dieuog nes llenwi Jerwsalem drwyddi, heb sôn am ei bechod yn arwain Jwda i bechu a gwneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.

17 Am weddill hanes Manasse, a'i holl waith a'r pechu a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?

18 A bu farw Manasse, a'i gladdu yng ngardd ei balas, sef yng ngardd Ussa. A daeth ei fab Amon yn frenin yn ei le.

Amon Brenin Jwda

19 Dwy ar hugain oed oedd Amon pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am ddwy flynedd yn Jerwsalem. Mesulemeth merch Harus o Iotba oedd enw ei fam.

20 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel y gwnaeth ei dad Manasse.

21 Dilynodd yn ôl troed ei dad, a gwasanaethu ac addoli'r un eilunod â'i dad.

22 Gwrthododd yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid, ac ni rodiodd yn ffordd yr ARGLWYDD.

23 Cynllwynodd gweision Amon yn ei erbyn, a lladd y brenin yn ei dŷ;

24 ond lladdwyd yr holl rai a fu'n cynllwyn yn erbyn y Brenin Amon gan bobl y wlad, a gwnaethant ei fab Joseia yn frenin yn ei le.

25 Am weddill hanes Amon, a'r hyn a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?

26 Claddwyd ef yn ei feddrod yng ngardd Ussa, a daeth ei fab Joseia yn frenin yn ei le.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25