10 Gwelwch felly nad yw'r un gair o'r hyn a lefarodd yr ARGLWYDD yn erbyn teulu Ahab wedi methu; y mae'r ARGLWYDD wedi gwneud yr hyn a addawodd drwy ei was Elias.”
11 Lladdodd Jehu bawb oedd ar ôl o deulu Ahab yn Jesreel, a'i holl uchelwyr a'i gyfeillion a'i offeiriaid, heb adael neb.
12 Yna ymadawodd Jehu i fynd i Samaria; ac yn ymyl Beth-eced y Bugeiliaid
13 cyfarfu â brodyr Ahaseia brenin Jwda, a gofyn, “Pwy ydych chwi?” Atebasant, “Brodyr Ahaseia, ac yr ydym yn mynd i gyfarch plant y brenin a phlant y fam frenhines.”
14 Ar hynny dywedodd, “Daliwch hwy'n fyw.” Ac wedi iddynt eu dal, lladdasant hwy wrth bydew Beth-eced, dau a deugain ohonynt, heb arbed yr un.
15 Wedi iddo ymadael oddi yno, gwelodd Jehonadab fab Rechab yn dod i'w gyfarfod. Cyfarchodd ef a gofyn, “A wyt ti mor ddiffuant gyda mi ag yr wyf fi gyda thi?” Atebodd Jehonadab, “Ydwyf.” Yna dywedodd Jehu, “Os wyt, estyn dy law.” Estynnodd ei law, a chymerodd yntau ef ato i'r cerbyd,
16 a dweud wrtho, “Tyrd gyda mi, a gwêl fy sêl dros yr ARGLWYDD.”