17 Aeth ag ef yn ei gerbyd, a phan ddaeth i Samaria, lladdodd bawb oedd yn weddill o deulu Ahab yn Samaria, a'u difa, yn ôl y gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Elias.
18 Casglodd Jehu yr holl bobl a dweud wrthynt, “Yr oedd Ahab yn addoli Baal ychydig; bydd Jehu yn ei addoli lawer.
19 Felly galwch ataf holl broffwydi Baal, ei holl addolwyr a'i holl offeiriaid, heb adael yr un ar ôl, oherwydd rwyf am gynnal aberth mawr i Baal, ac ni chaiff neb fydd yn absennol fyw.” Ond gweithredu'n gyfrwys yr oedd Jehu, er mwyn difa addolwyr Baal.
20 Gorchmynnodd Jehu, “Cyhoeddwch gynulliad sanctaidd i Baal.” Gwnaethant hynny,
21 ac anfonodd Jehu drwy holl Israel, a daeth holl addolwyr Baal yno, heb adael neb ar ôl, a daethant i deml Baal a'i llenwi i'r ymylon.
22 Yna dywedodd wrth yr un oedd yn gofalu am y gwisgoedd, “Dwg allan wisg i bob un o addolwyr Baal.” A dygodd yntau'r gwisgoedd iddynt.
23 Yna daeth Jehu a Jehonadab fab Rechab at deml Baal, a dweud wrth addolwyr Baal, “Chwiliwch yn fanwl rhag bod neb o addolwyr yr ARGLWYDD yna gyda chwi, dim ond addolwyr Baal yn unig.”