1 Pan welodd Athaleia, mam Ahaseia, fod ei mab wedi marw, aeth ati i ddifodi'r holl linach frenhinol.
2 Ond cymerwyd Joas fab Ahaseia gan Jehoseba, merch y Brenin Joram a chwaer Ahaseia, a'i ddwyn yn ddirgel o blith plant y brenin, a oedd i'w lladd. Rhoed ef a'i famaeth mewn ystafell wely, a'i guddio rhag Athaleia, ac ni laddwyd ef.
3 A bu ynghudd gyda hi yn nhŷ'r ARGLWYDD am chwe blynedd, tra oedd Athaleia'n rheoli'r wlad.
4 Ond yn y seithfed flwyddyn anfonodd Jehoiada am gapteiniaid y Cariaid a'r gwarchodlu, a'u dwyn ato i dŷ'r ARGLWYDD. Gwnaeth gytundeb â hwy, a pharodd iddynt dyngu llw yn nhŷ'r ARGLWYDD; yna dangosodd iddynt fab y brenin,
5 a gorchymyn iddynt, “Dyma'r hyn a wnewch: y mae traean ohonoch yn dod i mewn ar y Saboth ac ar wyliadwriaeth yn y palas;