11 Ar ôl eu harchwilio, rhoddid yr arian i'r rhai a benodwyd i ofalu am y gwaith yn nhŷ'r ARGLWYDD; hwy oedd yn talu i'r seiri coed a'r adeiladwyr oedd yn gweithio ar dŷ'r ARGLWYDD,
12 hefyd i'r seiri maen a'r naddwyr cerrig, a hwy oedd yn prynu coed a cherrig nadd i atgyweirio agennau tŷ'r ARGLWYDD, ac yn gwneud pob taliad ynglŷn â diddosi'r tŷ.
13 Ni wnaed o'r arian a ddygwyd i dŷ'r ARGLWYDD gwpanau arian, saltringau, cawgiau, utgyrn, nac unrhyw offer aur nac arian yn nhŷ'r ARGLWYDD;
14 ond yn hytrach fe'u rhoed yn dâl i'r gweithwyr am atgyweirio tŷ'r ARGLWYDD.
15 Ac nid oeddent yn hawlio cyfrif oddi wrth y rhai oedd yn gofalu am y gwaith ac yn cael yr arian i dalu i'r gweithwyr, am eu bod yn gweithredu'n onest.
16 Ni ddefnyddid ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD arian yr offrwm dros gamwedd a phechod; eiddo'r offeiriaid oeddent hwy.
17 Yr adeg honno aeth Hasael brenin Syria i ryfel yn erbyn Gath, a'i chipio, ac yna rhoi ei fryd ar ymosod ar Jerwsalem.