17 Yr adeg honno aeth Hasael brenin Syria i ryfel yn erbyn Gath, a'i chipio, ac yna rhoi ei fryd ar ymosod ar Jerwsalem.
18 A chymerodd Jehoas brenin Jwda yr holl roddion a gysegrodd ei ragflaenwyr Jehosaffat, Jehoram ac Ahaseia, brenhinoedd Jwda, a hefyd ei roddion ei hun a'r holl aur oedd ar gael yn nhrysorfa tŷ'r ARGLWYDD a'r palas, a'u hanfon at Hasael brenin Syria; troes yntau yn ôl oddi wrth Jerwsalem.
19 Am weddill hanes Jehoas, a'r cwbl a gyflawnodd, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?
20 Gwnaeth ei weision gynllwyn yn erbyn Joas a'i ladd yn Beth-milo wrth riw Sila.
21 Ei weision Josabad fab Simeath a Jehosabad fab Somer a'i lladdodd. Bu farw a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr yn Ninas Dafydd, a daeth ei fab Amaseia yn frenin yn ei le.