5 cymered yr offeiriaid hefyd o'r cyfraniadau a dderbyniant, ac atgyweirio pob agen ym muriau'r tŷ.”
6 Eto erbyn y drydedd flwyddyn ar hugain i'r Brenin Jehoas nid oedd yr offeiriaid wedi atgyweirio agennau'r tŷ;
7 a galwodd y Brenin Jehoas am yr archoffeiriad Jehoiada ac am yr offeiriaid, a dweud wrthynt, “Pam nad ydych wedi atgyweirio agennau'r tŷ? Yn awr, felly, nid ydych i dderbyn arian o'r cyfraniadau; y maent i'w rhoi at atgyweirio agennau'r tŷ.”
8 Cytunodd yr offeiriaid i beidio â derbyn arian gan y bobl i atgyweirio agennau'r tŷ.
9 A chymerodd yr offeiriad Jehoiada gist, a gwneud twll yn ei chaead a'i gosod yn ymyl yr allor, ar y dde wrth fynd i mewn i dŷ'r ARGLWYDD; ac yno y rhoddai'r offeiriaid oedd yn gwylio'r drws yr holl arian a ddygid i dŷ'r ARGLWYDD.
10 A phan welent fod llawer o arian yn y gist, byddai ysgrifennydd y brenin yn dod i fyny gyda'r archoffeiriad, yn eu rhoi mewn codau ac yna'n cyfrif yr arian a gafwyd yn nhŷ'r ARGLWYDD.
11 Ar ôl eu harchwilio, rhoddid yr arian i'r rhai a benodwyd i ofalu am y gwaith yn nhŷ'r ARGLWYDD; hwy oedd yn talu i'r seiri coed a'r adeiladwyr oedd yn gweithio ar dŷ'r ARGLWYDD,