18 Dywedodd wedyn, “Cymer y saethau,” a chymerodd yntau hwy. Yna dywedodd Eliseus wrth frenin Israel, “Taro hwy ar y ddaear.” Trawodd yntau deirgwaith ac yna peidio.
19 Digiodd gŵr Duw wrtho a dweud, “Pe bait wedi taro pump neu chwech o weithiau, yna byddit yn taro Syria yn Affec nes ei difa; ond yn awr, teirgwaith yn unig y byddi'n taro Syria.”
20 Wedi hyn bu Eliseus farw, a chladdwyd ef.Bob blwyddyn byddai minteioedd o Moab yn arfer dod ar draws y wlad.
21 Un tro, yn ystod angladd rhyw ddyn, gwelwyd mintai'n dod, a bwriwyd y dyn i fedd Eliseus; ond cyn gynted ag y cyffyrddodd ag esgyrn Eliseus, daeth yn fyw a chodi ar ei draed.
22 Bu Hasael brenin Syria yn gorthrymu Israel holl ddyddiau Jehoahas,
23 nes i'r ARGLWYDD dosturio a dangos trugaredd a ffafr tuag atynt er mwyn ei gyfamod ag Abraham, Isaac a Jacob, am nad oedd yn ewyllysio'u dinistrio ac nad oedd hyd yn hyn wedi eu bwrw allan o'i olwg.
24 Pan fu farw Hasael brenin Syria, daeth ei fab Ben-hadad yn frenin yn ei le;