4 Ond erfyniodd Jehoahas ar yr ARGLWYDD, a gwrandawodd yntau arno wrth weld fel y dioddefai Israel dan orthrwm brenin Syria.
5 Rhoddodd yr ARGLWYDD waredydd i Israel a'u rhyddhau o afael Syria, a chafodd yr Israeliaid fyw yn eu cartrefi fel o'r blaen.
6 Eto ni throesant oddi wrth bechodau tylwyth Jeroboam, a barodd i Israel bechu, ond parhau ynddynt, ac yr oedd hyd yn oed y pren Asera'n aros yn Samaria.
7 Ni adawodd Hasael i Jehoahas fwy na hanner cant o farchogion, a deg o gerbydau, a deng mil o wŷr traed, gan fod brenin Syria wedi eu dinistrio a'u gwneud fel llwch dyrnwr.
8 Am weddill hanes Jehoahas, a'i weithredoedd a'i wrhydri, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?
9 Bu farw Jehoahas, a'i gladdu yn Samaria, a daeth ei fab Joas yn frenin yn ei le.
10 Yn yr ail flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Jehoas brenin Jwda y daeth Joas fab Jehoahas yn frenin ar Israel yn Samaria am un mlynedd ar bymtheg.