1 Yn ail flwyddyn Joas fab Jehoahas brenin Israel, daeth Amaseia fab Jehoas yn frenin ar Jwda.
2 Pump ar hugain oedd ei oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am naw mlynedd ar hugain yn Jerwsalem. Jehoadan o Jerwsalem oedd enw ei fam.
3 Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, er nad fel ei dad Dafydd; gwnaeth yn union fel ei dad Jehoas.
4 Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; yr oedd y bobl yn parhau i aberthu ac arogldarthu ynddynt.