26 Gwelodd yr ARGLWYDD fod cystudd Israel yn flin iawn i gaeth a rhydd fel ei gilydd, ac nid oedd neb i gynorthwyo Israel.
27 Ond nid oedd yr ARGLWYDD wedi dweud y dileai enw Israel yn llwyr, a gwaredodd hwy drwy Jeroboam fab Jehoahas.
28 Am weddill hanes Jeroboam, a'r cwbl a wnaeth, a'i wrhydri wrth ymladd ac wrth adfer Damascus a Hamath-iawdi i Israel, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?
29 Bu farw Jeroboam, a'i gladdu gyda brenhinoedd Israel, a daeth ei fab Sechareia yn frenin yn ei le.