7 Trawodd Amaseia ddeng mil o filwyr Edom yn Nyffryn yr Halen, a chymryd Sela mewn brwydr a'i enwi'n Joctheel hyd heddiw.
8 Yna anfonodd genhadau at Joas fab Jehoahas, fab Jehu, brenin Israel, a dweud, “Tyrd, gad inni ddod wyneb yn wyneb.”
9 Anfonodd Joas brenin Israel yn ôl at Amaseia brenin Jwda, a dweud, “Gyrrodd ysgellyn oedd yn Lebanon at gedrwydden Lebanon yn dweud, ‘Rho dy ferch yn wraig i'm mab.’ Ond daeth rhyw fwystfil oedd yn Lebanon heibio a mathru'r ysgellyn.
10 Gorchfygaist Edom ac aethost yn ffroenuchel. Mwynha d'ogoniant, ac aros gartref; pam y codi helynt, ac yna cwympo a thynnu Jwda i lawr i'th ganlyn?”
11 Ond ni fynnai Amaseia wrando; felly daeth Joas brenin Israel ac Amaseia brenin Jwda wyneb yn wyneb ger Beth-semes yn Jwda.
12 Gorchfygwyd Jwda gan Israel, a ffodd pawb adref.
13 Wedi i Joas brenin Israel ddal Amaseia fab Jehoas, fab Ahaseia, brenin Jwda, yn Beth-semes, aeth yn ei flaen i Jerwsalem a thorri i lawr fur Jerwsalem o borth Effraim hyd borth y gongl, sef pedwar can cufydd.