24 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, heb droi oddi wrth bechodau Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu.
25 Cynllwyniodd ei is-gapten Pecach fab Remaleia yn ei erbyn, a chyda hanner cant o wŷr o Gilead ymosododd arno yn Samaria, yng nghaer y palas. Lladdodd ef, a theyrnasu yn ei le.
26 Am weddill hanes Pecaheia, a'r cwbl a wnaeth, y mae wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel.
27 Yn y ddeuddegfed flwyddyn a deugain i Asareia brenin Jwda, daeth Pecach fab Remaleia yn frenin ar Israel yn Samaria am ugain mlynedd.
28 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, heb droi oddi wrth bechodau Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu.
29 Yn nyddiau Pecach brenin Israel daeth Tiglath-pileser brenin Asyria a goresgyn Ijon, Abel-beth-maacha, Janoah, Cedes a Hasor, a hefyd Gilead, Galilea a holl diriogaeth Nafftali; a chaethgludodd hwy i Asyria.
30 Gwnaeth Hosea fab Ela gynllwyn yn erbyn Pecach fab Remaleia, ac ymosod arno a'i ladd, a dod yn frenin yn ei le yn yr ugeinfed flwyddyn i Jotham fab Usseia.