33 Pump ar hugain oedd ei oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar bymtheg yn Jerwsalem. Jerusa merch Sadoc oedd enw ei fam.
34 Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, a gweithredu yn hollol fel y gwnaeth ei dad Usseia;
35 er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; yr oedd y bobl yn parhau i aberthu ac arogldarthu ynddynt. Ef a adeiladodd borth uchaf tŷ'r ARGLWYDD.
36 Am weddill hanes Jotham, a'r hyn a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?
37 Yn y dyddiau hynny y dechreuodd yr ARGLWYDD anfon Resin brenin Syria a Pecach fab Remaleia i ymosod ar Jwda.
38 Bu farw Jotham, a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr yn ninas ei dad Dafydd, a theyrnasodd ei fab Ahas yn ei le.