5 Trawodd yr ARGLWYDD y brenin, a bu'n wahanglwyfus hyd ddydd ei farw, yn byw o'r neilltu yn ei dŷ, a Jotham mab y brenin yn oruchwyliwr y palas ac yn rheoli pobl y wlad.
6 Am weddill hanes Asareia a'r cwbl a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?
7 Bu farw Asareia, a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr yn Ninas Dafydd, a daeth ei fab Jotham yn frenin yn ei le.
8 Yn y ddeunawfed flwyddyn ar hugain i Asareia brenin Jwda, daeth Sechareia fab Jeroboam yn frenin ar Israel yn Samaria am chwe mis.
9 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel y gwnaeth ei ragflaenwyr, heb droi oddi wrth bechodau Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu.
10 Gwnaeth Salum fab Jabes gynllwyn yn ei erbyn ac ymosod arno yn Ibleam a'i ladd, a theyrnasu yn ei le.
11 Am weddill hanes Sechareia, y mae wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel.