8 Yn y ddeunawfed flwyddyn ar hugain i Asareia brenin Jwda, daeth Sechareia fab Jeroboam yn frenin ar Israel yn Samaria am chwe mis.
9 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel y gwnaeth ei ragflaenwyr, heb droi oddi wrth bechodau Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu.
10 Gwnaeth Salum fab Jabes gynllwyn yn ei erbyn ac ymosod arno yn Ibleam a'i ladd, a theyrnasu yn ei le.
11 Am weddill hanes Sechareia, y mae wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel.
12 Dyma addewid yr ARGLWYDD i Jehu: “Bydd plant i ti yn eistedd ar orsedd Israel hyd y bedwaredd genhedlaeth.” Ac felly y bu.
13 Yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Usseia brenin Jwda, daeth Salum fab Jabes i'r orsedd, a theyrnasu yn Samaria am fis.
14 Daeth Menahem fab Gadi o Tirsa i Samaria ac ymosod yno ar Salum fab Jabes a'i ladd, a theyrnasu yn ei le.