10 Yna aeth y Brenin Ahas i Ddamascus i gyfarfod Tiglath-pileser brenin Asyria. Gwelodd yno allor, ac anfonodd batrwm ohoni a holl fanylion ei gwneuthuriad at Ureia yr offeiriad.
11 Yna adeiladodd yr offeiriad Ureia allor, yn ôl y manylion a anfonodd y Brenin Ahas o Ddamascus, a'i gwneud yn barod erbyn i'r Brenin Ahas gyrraedd.
12 Pan gyrhaeddodd y brenin o Ddamascus a gweld yr allor, aeth i fyny a nesáu ati.
13 Yna llosgodd ei boethoffrwm a'i fwydoffrwm, a thywallt ei ddiodoffrwm a lluchio gwaed ei heddoffrymau yn erbyn yr allor.
14 Symudodd yr allor bres a arferai fod gerbron yr ARGLWYDD ym mlaen y tŷ, a'i gosod rhwng yr allor newydd a thŷ'r ARGLWYDD, ar ochr ogleddol yr allor honno.
15 A gorchmynnodd y Brenin Ahas i'r offeiriad Ureia, “Ar yr allor fawr yr wyt i losgi'r poethoffrwm boreol a'r bwydoffrwm hwyrol, a hefyd poethoffrwm a bwydoffrwm y brenin, a phoethoffrwm holl bobl y wlad ynghyd â'u bwydoffrwm a'u diodoffrymau. Ac yn ei herbyn hi y lluchi holl waed y poethoffrymau a'r aberthau. Ond ar fy nghyfer i y bydd yr allor bres i ymofyn wrthi.”
16 Gwnaeth yr offeiriad Ureia yn union fel y gorchmynnodd y Brenin Ahas.