3 Dilynodd esiampl brenhinoedd Israel, ac yn waeth, fe barodd i'w fab fynd trwy dân yn ôl arfer ffiaidd y cenhedloedd a ddisodlodd yr ARGLWYDD o flaen yr Israeliaid.
4 Yr oedd yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd ac ar y bryniau a than bob pren gwyrddlas.
5 Yr adeg honno daeth Resin brenin Syria a Pecach fab Remaleia brenin Israel i ryfela yn erbyn Jerwsalem. Rhoesant warchae ar Ahas, ond methu ei gael i frwydro.
6 Y pryd hwnnw enillwyd Elath yn ôl i Edom gan frenin Edom, a gyrrodd ef yr Iddewon allan o Elath. Daeth yr Edomiaid yn ôl i Elath, ac y maent yn byw yno hyd heddiw.
7 Anfonodd Ahas genhadau at Tiglath-pileser brenin Asyria a dweud, “Gwas a deiliad i ti wyf fi; tyrd i'm gwaredu o law brenhinoedd Syria ac Israel, sy'n ymosod arnaf.”
8 Cymerodd Ahas yr arian a'r aur oedd ar gael yn nhŷ'r ARGLWYDD ac yng nghoffrau'r palas a'u hanfon yn rhodd i frenin Asyria.
9 Gwrandawodd brenin Asyria arno, a mynd yn erbyn Damascus a'i goresgyn; caethgludodd ei thrigolion i Cir, a lladd Resin.