1 Yn y ddeuddegfed flwyddyn i Ahas brenin Jwda, daeth Hosea fab Ela yn frenin ar Israel yn Samaria am naw mlynedd.
2 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, er nad fel brenhinoedd Israel o'i flaen.
3 Ymosododd Salmaneser brenin Asyria arno, ac ymostyngodd Hosea ac anfon teyrnged iddo.
4 Ond darganfu brenin Asyria fod Hosea'n ei dwyllo, a'i fod wedi anfon cenhadau at So brenin yr Aifft, ac atal y deyrnged yr arferai ei thalu'n flynyddol i frenin Asyria; felly daliodd ef a'i garcharu.
5 Yna ymosododd ar y wlad i gyd, ac aeth i fyny yn erbyn Samaria a gwarchae arni am dair blynedd.
6 Yn y nawfed flwyddyn i Hosea, gorchfygwyd Samaria gan frenin Asyria, a chaethgludodd ef yr Israeliaid i Asyria a'u rhoi yn Hala ac ar lannau afon Habor yn Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid.
7 Digwyddodd hyn am i'r Israeliaid bechu yn erbyn yr ARGLWYDD eu Duw, a'u dygodd i fyny o wlad yr Aifft, o law Pharo brenin yr Aifft.