13 Yr oedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio Israel a Jwda drwy bob proffwyd a gweledydd, a dweud, “Trowch oddi wrth eich gweithredoedd drwg, a chadwch fy ngorchmynion a'm deddfau yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnais i'ch hynafiaid ac a hysbysais i chwi drwy fy ngweision y proffwydi.”
14 Eto nid oeddent yn gwrando, ond yn ystyfnigo fel eu hynafiaid oedd heb ymddiried yn yr ARGLWYDD eu Duw.
15 Yr oeddent yn gwrthod ei ddeddfau a'r cyfamod a wnaeth â'u hynafiaid a'r rhybuddion a roddodd iddynt, yn dilyn oferedd ac yn troi'n ofer, yr un fath â'r cenhedloedd oedd o'u cwmpas, er i'r ARGLWYDD orchymyn iddynt beidio â gwneud felly.
16 Yr oeddent yn diystyru holl orchmynion yr ARGLWYDD eu Duw, ac wedi gwneud iddynt eu hunain ddwy ddelw o lo, a delw o Asera. Yr oeddent yn ymgrymu i holl lu'r nef, yn addoli Baal, ac yn peri i'w meibion a'u merched fynd trwy dân.
17 Yr oeddent yn arfer dewiniaeth a swynion, ac yn ymroi'n llwyr i wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio.
18 Llidiodd yr ARGLWYDD yn fawr yn erbyn Israel, a gyrrodd hwy o'i ŵydd, heb adael ond llwyth Jwda'n unig ar ôl.
19 Eto ni chadwodd Jwda chwaith orchmynion yr ARGLWYDD eu Duw, ond dilyn yr un arferion ag Israel.