20 Felly gwrthododd yr ARGLWYDD holl hil Israel, a'u darostwng a'u rhoi yn llaw rheibwyr, ac yna'u bwrw'n llwyr o'i ŵydd.
21 Pan dorrodd Israel i ffwrdd oddi wrth linach Dafydd, gwnaethant Jeroboam fab Nebat yn frenin, a throdd yntau hwy oddi wrth yr ARGLWYDD a pheri iddynt bechu'n fawr.
22 Glynodd yr Israeliaid wrth holl bechodau Jeroboam, heb droi oddi wrthynt,
23 hyd nes i'r ARGLWYDD yrru Israel o'i ŵydd, fel yr oedd wedi dweud trwy ei weision y proffwydi; a chaethgludwyd Israel o'u gwlad i Asyria hyd heddiw.
24 Yna daeth brenin Asyria â phobl o Babilon, Cutha, Awa, Hamath a Seffarfaim a'u rhoi yn nhrefi Samaria yn lle'r Israeliaid; cawsant feddiannu Samaria a byw yn ei threfi.
25 Pan ddaethant yno i fyw gyntaf, nid oeddent yn addoli'r ARGLWYDD, ac anfonodd yr ARGLWYDD lewod i'w plith a byddai'r rheini'n eu lladd.
26 Yna dywedwyd wrth frenin Asyria, “Nid yw'r cenhedloedd a anfonaist i fyw yn nhrefi Samaria yn deall defod duw'r wlad, ac y mae wedi anfon i'w mysg lewod, ac y maent yn eu lladd am nad oes neb yn gwybod defod duw'r wlad.”