25 Pan ddaethant yno i fyw gyntaf, nid oeddent yn addoli'r ARGLWYDD, ac anfonodd yr ARGLWYDD lewod i'w plith a byddai'r rheini'n eu lladd.
26 Yna dywedwyd wrth frenin Asyria, “Nid yw'r cenhedloedd a anfonaist i fyw yn nhrefi Samaria yn deall defod duw'r wlad, ac y mae wedi anfon i'w mysg lewod, ac y maent yn eu lladd am nad oes neb yn gwybod defod duw'r wlad.”
27 Gorchmynnodd brenin Asyria, “Anfonwch yn ôl un o'r offeiriaid a ddygwyd oddi yno; gadewch iddo fynd i fyw yno, a dysgu defod duw'r wlad iddynt.”
28 Felly aeth un o'r offeiriaid, a gafodd ei gaethgludo o Samaria, i fyw ym Methel, a'u dysgu sut i addoli'r ARGLWYDD.
29 Yr oedd pob cenedl yn gwneud ei duw ei hun ac yn ei osod yng nghysegr yr uchelfeydd a wnaeth y Samariaid, pob cenedl yn y dref lle'r oedd yn byw.
30 Yr oedd pobl Babilon yn gwneud Sucoth-benoth, pobl Cuth yn gwneud Nergal, pobl Hamath yn gwneud Asima,
31 yr Awiaid yn gwneud Nibhas a Tartac, a gwŷr Seffarfaim yn llosgi eu plant i Adrammelech ac Anammelech duwiau Seffarfaim.