34 Hyd heddiw y maent yn dal at eu hen arferion. Nid addoli'r ARGLWYDD y maent, na gweithredu yn ôl y deddfau a'r arfer a'r gyfraith a'r gorchymyn a roes yr ARGLWYDD i feibion Jacob, a enwyd Israel.
35 Oherwydd, wrth wneud cyfamod â hwy, gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddynt, “Peidiwch ag addoli duwiau eraill nac ymostwng iddynt na'u gwasanaethu nac aberthu iddynt,
36 ond yn hytrach addoli ac ymostwng ac aberthu i'r ARGLWYDD a ddaeth â chwi o wlad yr Aifft â nerth mawr a braich estynedig.
37 Gofalwch gadw bob amser y deddfau a'r barnedigaethau a'r gyfraith a'r gorchymyn a ysgrifennodd ef ar eich cyfer; peidiwch ag addoli duwiau eraill.
38 Peidiwch ychwaith ag anghofio'r cyfamod a wneuthum â chwi, a pheidiwch ag addoli duwiau eraill.
39 Ond addolwch yr ARGLWYDD eich Duw, ac fe'ch gwared o law eich holl elynion.”
40 Eto ni wrandawsant, eithr dal at eu hen arferion.