37 Gofalwch gadw bob amser y deddfau a'r barnedigaethau a'r gyfraith a'r gorchymyn a ysgrifennodd ef ar eich cyfer; peidiwch ag addoli duwiau eraill.
38 Peidiwch ychwaith ag anghofio'r cyfamod a wneuthum â chwi, a pheidiwch ag addoli duwiau eraill.
39 Ond addolwch yr ARGLWYDD eich Duw, ac fe'ch gwared o law eich holl elynion.”
40 Eto ni wrandawsant, eithr dal at eu hen arferion.
41 Yr oedd y cenhedloedd hyn yn addoli'r ARGLWYDD, a'r un pryd yn gwasanaethu eu delwau; ac y mae eu plant a'u hwyrion wedi gwneud fel eu hynafiaid hyd heddiw.