4 Ond darganfu brenin Asyria fod Hosea'n ei dwyllo, a'i fod wedi anfon cenhadau at So brenin yr Aifft, ac atal y deyrnged yr arferai ei thalu'n flynyddol i frenin Asyria; felly daliodd ef a'i garcharu.
5 Yna ymosododd ar y wlad i gyd, ac aeth i fyny yn erbyn Samaria a gwarchae arni am dair blynedd.
6 Yn y nawfed flwyddyn i Hosea, gorchfygwyd Samaria gan frenin Asyria, a chaethgludodd ef yr Israeliaid i Asyria a'u rhoi yn Hala ac ar lannau afon Habor yn Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid.
7 Digwyddodd hyn am i'r Israeliaid bechu yn erbyn yr ARGLWYDD eu Duw, a'u dygodd i fyny o wlad yr Aifft, o law Pharo brenin yr Aifft.
8 Aethant i addoli duwiau eraill a dilyn arferion y cenhedloedd a yrrodd yr ARGLWYDD allan o flaen yr Israeliaid; hynny hefyd a wnaeth brenhinoedd Israel.
9 Yr oedd yr Israeliaid yn llechwraidd yn gwneud pethau anweddus yn erbyn yr ARGLWYDD eu Duw, ac yn adeiladu uchelfeydd ym mhob un o'u trefi, o dŵr gwylwyr hyd ddinas gaerog,
10 a chodi hefyd golofnau a physt cysegredig ar bob bryn uchel a than bob pren gwyrddlas.