9 Yr oedd yr Israeliaid yn llechwraidd yn gwneud pethau anweddus yn erbyn yr ARGLWYDD eu Duw, ac yn adeiladu uchelfeydd ym mhob un o'u trefi, o dŵr gwylwyr hyd ddinas gaerog,
10 a chodi hefyd golofnau a physt cysegredig ar bob bryn uchel a than bob pren gwyrddlas.
11 Yno yn yr holl uchelfeydd yr oeddent yn arogldarthu yr un fath â'r cenhedloedd a ddisodlodd yr ARGLWYDD o'u blaen, ac yn cyflawni gweithredoedd drygionus i ddigio'r ARGLWYDD,
12 ac yn addoli eilunod, er i'r ARGLWYDD wahardd hyn iddynt.
13 Yr oedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio Israel a Jwda drwy bob proffwyd a gweledydd, a dweud, “Trowch oddi wrth eich gweithredoedd drwg, a chadwch fy ngorchmynion a'm deddfau yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnais i'ch hynafiaid ac a hysbysais i chwi drwy fy ngweision y proffwydi.”
14 Eto nid oeddent yn gwrando, ond yn ystyfnigo fel eu hynafiaid oedd heb ymddiried yn yr ARGLWYDD eu Duw.
15 Yr oeddent yn gwrthod ei ddeddfau a'r cyfamod a wnaeth â'u hynafiaid a'r rhybuddion a roddodd iddynt, yn dilyn oferedd ac yn troi'n ofer, yr un fath â'r cenhedloedd oedd o'u cwmpas, er i'r ARGLWYDD orchymyn iddynt beidio â gwneud felly.