1 Pan glywodd y Brenin Heseceia yr hanes, rhwygodd ei ddillad a rhoi sachliain amdano, a mynd i dŷ'r ARGLWYDD.
2 Yna anfonodd Eliacim, arolygwr y palas, a Sebna'r ysgrifennydd a'r rhai hynaf o'r offeiriaid, i gyd mewn sachliain, at y proffwyd Eseia fab Amos, i ddweud wrtho,
3 “Fel hyn y dywed Heseceia: ‘Y mae heddiw'n ddydd o gyfyngder a cherydd a gwarth; y mae fel pe bai plant ar fin cael eu geni, a'r fam heb nerth i esgor.
4 O na fyddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn gwrando ar eiriau'r prif swyddog a anfonwyd gan ei feistr, brenin Asyria, i gablu'r Duw byw, ac y byddai yn ei geryddu am y geiriau a glywodd yr ARGLWYDD dy Dduw! Felly dos i weddi dros y gweddill sydd ar ôl.’ ”