17 Y mae'n wir, O ARGLWYDD, fod brenhinoedd Asyria wedi difa'r cenhedloedd a'u gwledydd,
18 a thaflu eu duwiau i'r tân; cawsant eu dinistrio am nad duwiau mohonynt, ond gwaith dwylo dynol, o goed a charreg.
19 Yn awr, O ARGLWYDD ein Duw, gwared ni o'i afael, ac yna caiff holl deyrnasoedd y ddaear wybod mai ti yn unig, O ARGLWYDD, sydd Dduw.”
20 Anfonodd Eseia fab Amos at Heseceia, a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel;
21 ‘Clywais yr hyn a weddïaist ynglŷn â Senacherib brenin Asyria, a dyma'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD yn ei erbyn:“ ‘Y mae'r forwyn, merch Seion, yn dy ddirmygu,yn chwerthin am dy ben;y mae merch Jerwsalem yn ysgwyd ei phen ar dy ôl.
22 Pwy wyt ti yn ei ddifenwi ac yn ei gablu?Yn erbyn pwy y codi dy lais?Yr wyt yn gwneud ystum dirmygusyn erbyn Sanct Israel.
23 Trwy dy weision fe geblaist yr Arglwydd, a dweud,“Gyda lliaws fy ngherbydaudringais yn uchel i gopa'r mynyddoedd,i bellterau Lebanon;torrais y praffaf o'i gedrwydd, a'r dewisaf o'i ffynidwydd;euthum i'w gwr uchaf, ei lechweddau coediog.