19 Yn awr, O ARGLWYDD ein Duw, gwared ni o'i afael, ac yna caiff holl deyrnasoedd y ddaear wybod mai ti yn unig, O ARGLWYDD, sydd Dduw.”
20 Anfonodd Eseia fab Amos at Heseceia, a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel;
21 ‘Clywais yr hyn a weddïaist ynglŷn â Senacherib brenin Asyria, a dyma'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD yn ei erbyn:“ ‘Y mae'r forwyn, merch Seion, yn dy ddirmygu,yn chwerthin am dy ben;y mae merch Jerwsalem yn ysgwyd ei phen ar dy ôl.
22 Pwy wyt ti yn ei ddifenwi ac yn ei gablu?Yn erbyn pwy y codi dy lais?Yr wyt yn gwneud ystum dirmygusyn erbyn Sanct Israel.
23 Trwy dy weision fe geblaist yr Arglwydd, a dweud,“Gyda lliaws fy ngherbydaudringais yn uchel i gopa'r mynyddoedd,i bellterau Lebanon;torrais y praffaf o'i gedrwydd, a'r dewisaf o'i ffynidwydd;euthum i'w gwr uchaf, ei lechweddau coediog.
24 Cloddiais bydewau ac yfed dyfroedd estron;â gwadn fy nhroed sychais holl ffrydiau'r Neil.
25 Oni chlywaist erstalwm mai myfi a'i gwnaeth,ac imi lunio hyn yn y dyddiau gynt?Bellach rwy'n ei ddwyn i ben;bydd dinasoedd caerog yn syrthioyn garneddau wedi eu dinistrio;