25 Oni chlywaist erstalwm mai myfi a'i gwnaeth,ac imi lunio hyn yn y dyddiau gynt?Bellach rwy'n ei ddwyn i ben;bydd dinasoedd caerog yn syrthioyn garneddau wedi eu dinistrio;
26 bydd y trigolion a'u nerth yn pallu,yn ddigalon ac mewn gwarth,fel gwellt y maes, llysiau gwyrdda glaswellt pen towedi eu deifio cyn llawn dyfu.
27 Rwy'n gwybod pryd yr wyt yn eistedd,yn mynd allan ac yn dod i mewn,a'r modd yr wyt yn cynddeiriogi yn f'erbyn.
28 Am dy fod yn gynddeiriog yn f'erbyn,a bod sen dy draha yn fy nghlustiau,fe osodaf fy mach yn dy ffroena'm ffrwyn yn dy weflau,a'th yrru'n ôl ar hyd y ffordd y daethost.” ’
29 “ ‘Hyn fydd yr arwydd i ti: eleni, bwyteir yr ŷd sy'n tyfu ohono'i hun, a'r flwyddyn nesaf, yr hyn sydd wedi ei hau ohono'i hun; ond yn y drydedd flwyddyn cewch hau a medi, a phlannu gwinllannoedd a bwyta eu ffrwyth.
30 Bydd y dihangol a adewir yn nhŷ Jwda yn gwreiddio i lawr ac yn ffrwytho i fyny;
31 oherwydd fe ddaw gweddill allan o Jerwsalem, a rhai dihangol allan o Fynydd Seion. Sêl ARGLWYDD y lluoedd a wna hyn.’