4 O na fyddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn gwrando ar eiriau'r prif swyddog a anfonwyd gan ei feistr, brenin Asyria, i gablu'r Duw byw, ac y byddai yn ei geryddu am y geiriau a glywodd yr ARGLWYDD dy Dduw! Felly dos i weddi dros y gweddill sydd ar ôl.’ ”
5 Pan ddaeth gweision y Brenin Heseceia at Eseia,
6 dywedodd Eseia wrthynt, “Dywedwch wrth eich meistr, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Paid ag ofni'r pethau a glywaist, pan oedd llanciau brenin Asyria yn fy nghablu.
7 Edrych, rwy'n rhoi ysbryd ynddo, ac fe glyw si fydd yn peri iddo ddychwelyd i'w wlad; hefyd gwnaf iddo syrthio gan y cleddyf yn y wlad honno.’ ”
8 Pan ddychwelodd y prif swyddog, cafodd ar ddeall fod brenin Asyria wedi gadael Lachis, a'i fod yn rhyfela yn erbyn Libna.
9 Ond pan ddeallodd fod Tirhaca brenin Ethiopia ar ei ffordd i ryfela yn ei erbyn, fe anfonodd genhadau eilwaith at Heseceia, a dweud,
10 “Dywedwch wrth Heseceia brenin Jwda, ‘Paid â chymryd dy dwyllo gan dy Dduw yr wyt yn ymddiried ynddo, ac sy'n dweud na roddir Jerwsalem i afael brenin Asyria.