14 Cymerodd y fantell a syrthiodd oddi ar Elias, a tharo'r dŵr a dweud, “Ple y mae'r ARGLWYDD, Duw Elias?” Trawodd yntau'r dŵr, ac fe ymrannodd i'r ddeutu, a chroesodd Eliseus.
15 Pan welodd y proffwydi oedd yr ochr draw, yn Jericho, dywedasant, “Disgynnodd ysbryd Elias ar Eliseus.”
16 Ac aethant i'w gyfarfod ac ymgrymu hyd lawr iddo, a dweud, “Y mae gan dy weision hanner cant o ddynion cryfion; gad iddynt fynd i chwilio am dy feistr rhag ofn bod ysbryd yr ARGLWYDD, ar ôl ei gipio i fyny, wedi ei fwrw ar un o'r mynyddoedd, neu i ryw gwm.” Dywedodd, “Peidiwch ag anfon.”
17 Ond buont yn daer nes bod cywilydd arno, a dywedodd, “Anfonwch.” Wedi iddynt anfon hanner cant o ddynion, buont yn chwilio am dridiau, ond heb ei gael.
18 Arhosodd Eliseus yn Jericho nes iddynt ddychwelyd; yna dywedodd wrthynt, “Oni ddywedais wrthych am beidio â mynd?”
19 Dywedodd trigolion y dref wrth Eliseus, “Edrych, y mae safle'r dref yn ddymunol, fel y sylwi, O feistr, ond y mae'r dŵr yn wenwynig a'r tir yn ddiffrwyth.”
20 Dywedodd yntau, “Dewch â llestr newydd crai imi, a rhowch halen ynddo.”